O’r 1af Chwefror 2023 ni fydd Practis Meddygol Caereinion bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer meddyginiaeth reolaidd dros y ffôn. Mae'r Practis wedi rhoi'r ffordd newydd hon o weithio ar waith i sicrhau bod ein Tîm Cyflenwi yn canolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleifion. Byddwch yn dal i allu archebu eich meddyginiaeth reolaidd drwy sawl ffordd arall:

  • Dod â’ch presgripsiwn rheolaidd i’r Practis yn bersonol naill ai i’r Dderbynfa neu ei ollwng yn y blwch post presgripsiwn y tu allan i'r brif fynedfa.
  • Drwy’r post gan ddefnyddio'r Post Brenhinol i: Practis Meddygol Llanfair Caereinion, Llanfair Caereinion, Y Trallwng SY21 0RT
  • Archebu trwy ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein - bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, gofynnwch am fanylion gyda’r dderbynfa. Gallwch gwblhau’r ffurflen hon ar-lein.
  • Cofrestru gyda’r Ap MySurgery, lle gallwch archebu eich meddyginiaeth reolaidd trwy ddefnyddio Ap diogel ar eich ffon symudol.
  • Archebu trwy ein cyfeiriad e-bost pwrpasol: [email protected]

Rydym yn ymwybodol y bydd grŵp bach o gleifion nad ydynt yn gallu archebu eu meddyginiaeth reolaidd gan ddefnyddio unrhyw un o'r pum opsiwn archebu uchod, byddwn yn ystyried y cleifion mwy anghysbell a bregus hyn drwy gynnig gwasanaeth ychydig yn wahanol iddyn nhw. Rhowch wybod i staff ein derbynfa eich bod am gael eich ychwanegu at y rhestr hon, a bydd y staff wedyn trefnu adolygiad i chi gyda'r Fferyllydd i weld a yw’n addas.